Episodi

  • Lefel Mynediad: Dan Griffiths
    May 31 2026

    🎙️ Yn y bennod yma o Daliwch Ati, mae Jon yn siarad â Dan am ei daith yn dysgu Cymraeg a’i ddiddordeb mewn buddsoddi a chyllid personol.


    Mae Dan wedi bod yn dysgu Cymraeg ers bron i ddwy flynedd ac yn trafod sut mae’r iaith wedi dod yn rhan bwysig o’i fywyd, yn y gwaith ac yn gymdeithasol. Mae’n rhannu rhai o’r heriau o ddysgu’r Gymraeg, yn ogystal â’i gyngor syml ond effeithiol i ddysgwyr eraill: rhoi cynnig arni a defnyddio’r iaith.


    Mae’r sgwrs hefyd yn canolbwyntio ar fyd buddsoddi. Mae Dan yn esbonio sut y dechreuodd ddysgu am fuddsoddi, pam mae addysg ariannol mor bwysig, a sut mae’n ceisio helpu eraill i ddeall pynciau fel y farchnad stoc, cronfeydd mynegai a chynllunio ariannol hirdymor.


    Mae’r bennod yma’n addas ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad.


    🎧 Diolch am wrando ar Daliwch Ati!



    🎙️ In this episode of Daliwch Ati, Jon chats with Dan about his Welsh-learning journey and his interest in investing and personal finance.


    Dan has been learning Welsh for almost two years and discusses how the language has become an important part of his life, both at work and socially. He shares some of the challenges of learning Welsh, as well as his simple but effective advice for other learners: give it a go and use the language.


    The conversation also focuses on the world of investing. Dan explains how he became interested in investing, why financial education is so important, and how he tries to help others understand topics such as the stock market, index funds, and long-term financial planning.


    This episode is suitable for Mynediad-level learners.


    🎧 Thanks for listening to Daliwch Ati

    Mostra di più Mostra meno
    11 min
  • Lefel Mynediad: Luke D'Bell
    May 30 2026

    🎙️ Yn y bennod yma o Daliwch Ati, mae Jon yn siarad gyda Luke am ei daith yn dysgu Cymraeg a’i antur ddiweddar yn India.


    Mae Luke yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe ac yn dysgu Cymraeg ar lefel Mynediad. Yn ystod y sgwrs, mae’n trafod rhai o’r heriau o ddysgu’r iaith, yn enwedig treigladau, ac yn rhannu ei gyngor i ddysgwyr eraill: gwrando ar gymaint o Gymraeg â phosibl.


    Mae’r sgwrs hefyd yn troi at ei daith i India, lle oedd e'n ymweld ag ardal fynyddig ger yr Himalaya fel rhan o brosiect prifysgol. Mae’n trafod yr amgylchedd, yr uchder eithriadol, a’i brofiad o salwch uchder wrth deithio yn y mynyddoedd.


    Mae’r bennod yma’n addas ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad.


    🎧 Diolch am wrando ar Daliwch Ati!



    🎙️ In this episode of Daliwch Ati, Jon chats with Luke about his Welsh-learning journey and his recent adventure in India.


    Luke is a student at Swansea University and is learning Welsh at Entry level. During the conversation, he discusses some of the challenges of learning the language, particularly mutations, and shares his advice for other learners: listen to as much Welsh as possible.


    The conversation also turns to his trip to India, where he visited a mountainous region near the Himalayas as part of a university project. He talks about the environment, the extreme altitude, and his experience of altitude sickness while travelling in the mountains.


    This episode is suitable for Mynediad level learners.


    🎧 Thanks for listening to Daliwch Ati

    Mostra di più Mostra meno
    8 min
  • Lefel Uwch: Kevin Davies
    May 16 2026

    🎙️ Yn y bennod yma o Daliwch Ati, mae Jon yn siarad gyda Kev am ei daith yn dysgu Cymraeg yn Sir Benfro a’i waith gyda’r Eisteddfod Genedlaethol.


    Mae Kev yn dysgu Cymraeg ac mae’n trafod sut mae’r iaith wedi agor drysau newydd iddo — o wneud ffrindiau newydd i ddarganfod mwy am ddiwylliant, hanes a cherddoriaeth Cymru. Mae hefyd yn rhannu ei brofiadau yn helpu trefnu digwyddiadau a chodi arian ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro.


    Yn ystod y sgwrs, rydyn ni’n trafod hyder wrth ddefnyddio Cymraeg, pwysigrwydd cymuned, a’r cyfleoedd mae’r Eisteddfod yn eu cynnig i ddysgwyr Cymraeg.


    Mae’r bennod yma’n addas ar gyfer dysgwyr lefel Uwch.


    🎧 Diolch am wrando ar Daliwch Ati!



    🎙️ In this episode of Daliwch Ati, Jonathan chats with Kev about his Welsh learning journey in Pembrokeshire and his work with the National Eisteddfod.


    Kev is learning Welsh and talks about how the language has opened new doors for him — from making new friends to discovering more about Welsh culture, history, and music. He also shares his experiences helping to organise events and raise money for the National Eisteddfod in Pembrokeshire.


    During the conversation, they discuss confidence when using Welsh, the importance of community, and the opportunities the Eisteddfod offers Welsh learners.


    This episode is suitable for learners at level Uwch!


    🎧 Thanks for listening to Daliwch

    Mostra di più Mostra meno
    21 min
  • Lefel Canolradd: Lijie Dong
    May 16 2026

    🎙️ Yn y bennod yma o Daliwch Ati, mae Jonathan yn siarad gyda Lijie am ei thaith yn dysgu Cymraeg ar ôl symud o Tsieina i Abertawe.


    Mae Lijie yn trafod sut dechreuodd hi ddysgu Cymraeg i wneud ffrindiau newydd, ei phrofiadau yn y dosbarthiadau Cymraeg, a pham mae defnyddio tipyn bach o Gymraeg bob dydd mor bwysig. Mae hi hefyd yn siarad am ei gwaith gwirfoddol yn maethu cathod gyda Swansea Cats and Kittens, gan rannu rhai straeon doniol a chynnes am y cathod mae hi wedi helpu.


    Mae’r bennod yma’n addas ar gyfer dysgwyr lefel Canolradd.


    🎧 Diolch am wrando ar Daliwch Ati!


    I gefnogi Swansea Cats & Kittens dilynwch y ddolen yma: https://swanseacatsandkittens.co.uk



    🎙️ In this episode of Daliwch Ati, Jonathan chats with Lijie about her Welsh learning journey after moving from China to Swansea.


    Lijie talks about starting to learn Welsh to make new friends, her experiences in Welsh classes, and why using a little bit of Welsh every day is so important. She also discusses her volunteer work fostering cats with Swansea Cats and Kittens, sharing some funny and heartwarming stories about the cats she has helped.


    This episode is suitable for Canolradd level learners.


    🎧 Thanks for listening to Daliwch Ati!


    To support the work of Swansea Cats & Kittens follow this link: https://swanseacatsandkittens.co.uk

    Mostra di più Mostra meno
    15 min
  • Lefel Mynediad: Millie Thomas
    May 14 2026

    🎙️ Yn y bennod yma o Daliwch Ati, mae Jonathan yn siarad gyda Millie am ei thaith yn dysgu Cymraeg.


    Mae Millie yn gweithio yn y probation service ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd. Dyn ni’n siarad am ddefnyddio Cymraeg yn y gwaith ac adre, gwneud arholiadau Cymraeg, mynd i’r gampfa, a’r her o ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd.


    Mae’r bennod yma’n addas ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad.



    🎙️ In this episode of Daliwch Ati, Jonathan chats with Millie about her Welsh learning journey.


    Millie works in the probation service and has been learning Welsh for two years. They talk about using Welsh at work and at home, taking Welsh exams, going to the gym, and the challenge of using Welsh every day.


    This episode is suitable for Mynediad level learners.

    Mostra di più Mostra meno
    9 min
  • Lefel Uwch: Vixie Williams
    May 13 2026

    🎙️ Yn y bennod yma, mae Jonathan yn sgwrsio gyda Vixie am ei thaith yn dysgu Cymraeg, o ddechrau gyda modiwlau ar-lein cyn Covid i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith heddiw.

    Mae’r sgwrs yn trafod:
    • dysgu Cymraeg fel oedolyn
    • cwrsiau preswyl yn Nant Gwrtheyrn
    • magu hyder wrth siarad
    • y “intermediate plateau” enwog 😅
    • gwirfoddoli a defnyddio Cymraeg yn y byd go iawn
    • gwaith Discovery yn creu cyfleoedd Cymraeg i fyfyrwyr a’r gymuned


    🎧 Addas ar gyfer dysgwyr lefel uwch.


    🎙️ In this episode, Jonathan chats with Vixie about her Welsh learning journey, from starting with online modules before Covid to using Welsh confidently in the community today.

    The conversation covers:
    • learning Welsh as an adult
    • immersive courses at Nant Gwrtheyrn
    • building confidence when speaking
    • the infamous “intermediate plateau” 😅
    • volunteering and using Welsh in real-life situations
    • Discovery’s work creating Welsh-language opportunities for students and the local community


    🎧 Suitable for advanced Welsh learners


    Mostra di più Mostra meno
    25 min