Daliwch Ati copertina

Daliwch Ati

Daliwch Ati

Di: Jonathan Davies
Ascolta gratuitamente

Mae Daliwch Ati yn bodlediad dysgu Cymraeg hwyl a chyfeillgar i ddechreuwyr a thu hwnt. Sgyrsiau byr, ymadroddion defnyddiol, a digon o gymorth — i’ch helpu i ddal ati. Daliwch Ati is a fun and friendly Welsh-learning podcast for beginners and beyond. Short chats, useful phrases, and plenty of encouragement — helping you to dal ati.Jonathan Davies Apprendimento della lingua
  • Lefel Mynediad: Dan Griffiths
    May 31 2026

    🎙️ Yn y bennod yma o Daliwch Ati, mae Jon yn siarad â Dan am ei daith yn dysgu Cymraeg a’i ddiddordeb mewn buddsoddi a chyllid personol.


    Mae Dan wedi bod yn dysgu Cymraeg ers bron i ddwy flynedd ac yn trafod sut mae’r iaith wedi dod yn rhan bwysig o’i fywyd, yn y gwaith ac yn gymdeithasol. Mae’n rhannu rhai o’r heriau o ddysgu’r Gymraeg, yn ogystal â’i gyngor syml ond effeithiol i ddysgwyr eraill: rhoi cynnig arni a defnyddio’r iaith.


    Mae’r sgwrs hefyd yn canolbwyntio ar fyd buddsoddi. Mae Dan yn esbonio sut y dechreuodd ddysgu am fuddsoddi, pam mae addysg ariannol mor bwysig, a sut mae’n ceisio helpu eraill i ddeall pynciau fel y farchnad stoc, cronfeydd mynegai a chynllunio ariannol hirdymor.


    Mae’r bennod yma’n addas ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad.


    🎧 Diolch am wrando ar Daliwch Ati!



    🎙️ In this episode of Daliwch Ati, Jon chats with Dan about his Welsh-learning journey and his interest in investing and personal finance.


    Dan has been learning Welsh for almost two years and discusses how the language has become an important part of his life, both at work and socially. He shares some of the challenges of learning Welsh, as well as his simple but effective advice for other learners: give it a go and use the language.


    The conversation also focuses on the world of investing. Dan explains how he became interested in investing, why financial education is so important, and how he tries to help others understand topics such as the stock market, index funds, and long-term financial planning.


    This episode is suitable for Mynediad-level learners.


    🎧 Thanks for listening to Daliwch Ati

    Mostra di più Mostra meno
    11 min
  • Lefel Mynediad: Luke D'Bell
    May 30 2026

    🎙️ Yn y bennod yma o Daliwch Ati, mae Jon yn siarad gyda Luke am ei daith yn dysgu Cymraeg a’i antur ddiweddar yn India.


    Mae Luke yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe ac yn dysgu Cymraeg ar lefel Mynediad. Yn ystod y sgwrs, mae’n trafod rhai o’r heriau o ddysgu’r iaith, yn enwedig treigladau, ac yn rhannu ei gyngor i ddysgwyr eraill: gwrando ar gymaint o Gymraeg â phosibl.


    Mae’r sgwrs hefyd yn troi at ei daith i India, lle oedd e'n ymweld ag ardal fynyddig ger yr Himalaya fel rhan o brosiect prifysgol. Mae’n trafod yr amgylchedd, yr uchder eithriadol, a’i brofiad o salwch uchder wrth deithio yn y mynyddoedd.


    Mae’r bennod yma’n addas ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad.


    🎧 Diolch am wrando ar Daliwch Ati!



    🎙️ In this episode of Daliwch Ati, Jon chats with Luke about his Welsh-learning journey and his recent adventure in India.


    Luke is a student at Swansea University and is learning Welsh at Entry level. During the conversation, he discusses some of the challenges of learning the language, particularly mutations, and shares his advice for other learners: listen to as much Welsh as possible.


    The conversation also turns to his trip to India, where he visited a mountainous region near the Himalayas as part of a university project. He talks about the environment, the extreme altitude, and his experience of altitude sickness while travelling in the mountains.


    This episode is suitable for Mynediad level learners.


    🎧 Thanks for listening to Daliwch Ati

    Mostra di più Mostra meno
    8 min
  • Lefel Uwch: Kevin Davies
    May 16 2026

    🎙️ Yn y bennod yma o Daliwch Ati, mae Jon yn siarad gyda Kev am ei daith yn dysgu Cymraeg yn Sir Benfro a’i waith gyda’r Eisteddfod Genedlaethol.


    Mae Kev yn dysgu Cymraeg ac mae’n trafod sut mae’r iaith wedi agor drysau newydd iddo — o wneud ffrindiau newydd i ddarganfod mwy am ddiwylliant, hanes a cherddoriaeth Cymru. Mae hefyd yn rhannu ei brofiadau yn helpu trefnu digwyddiadau a chodi arian ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro.


    Yn ystod y sgwrs, rydyn ni’n trafod hyder wrth ddefnyddio Cymraeg, pwysigrwydd cymuned, a’r cyfleoedd mae’r Eisteddfod yn eu cynnig i ddysgwyr Cymraeg.


    Mae’r bennod yma’n addas ar gyfer dysgwyr lefel Uwch.


    🎧 Diolch am wrando ar Daliwch Ati!



    🎙️ In this episode of Daliwch Ati, Jonathan chats with Kev about his Welsh learning journey in Pembrokeshire and his work with the National Eisteddfod.


    Kev is learning Welsh and talks about how the language has opened new doors for him — from making new friends to discovering more about Welsh culture, history, and music. He also shares his experiences helping to organise events and raise money for the National Eisteddfod in Pembrokeshire.


    During the conversation, they discuss confidence when using Welsh, the importance of community, and the opportunities the Eisteddfod offers Welsh learners.


    This episode is suitable for learners at level Uwch!


    🎧 Thanks for listening to Daliwch

    Mostra di più Mostra meno
    21 min
adbl_web_anon_alc_button_suppression_t1
Ancora nessuna recensione