Episodi

  • Pennod 14: Adolygiad Cynhadledd BAAL gyda Emma Grigorian a Jonathan Davies
    Sep 25 2026

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Emma Grigorian am eu profiad o fynychu cynhadledd flynyddol y British Association of Applied Linguistics (BAAL) yn Birmingham. Dros dri diwrnod o gyflwyniadau, trafodaethau a chymdeithasu, bu’r ddau yn cael cyfle i glywed am ymchwil ym maes ieithyddiaeth gymhwysol gan ymchwilwyr o Gymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt.


    Yn ystod y sgwrs, mae Jonathan ac Emma yn trafod beth sy’n gwneud cynhadledd academaidd yn brofiad mor ddwys, gan gynnwys y dewis o sesiynau, cyflwyniadau sy’n berthnasol i’w gwaith a chyflwyniadau eraill sy’n cynnig syniadau newydd ac annisgwyl. Maen nhw hefyd yn rhannu rhai o’r cyflwyniadau a’r pynciau a wnaeth yr argraff fwyaf arnynt, gan gynnwys gwaith ar seicoleg dysgu ieithoedd, rôl memes wrth fynegi emosiynau, ac ymchwil i ieithyddiaeth mewn ysgolion.


    Mae’r bennod hefyd yn trafod lle Cymru a’r Gymraeg o fewn y maes ieithyddiaeth gymhwysol yn ehangach. Mae Jonathan ac Emma yn myfyrio ar y diffyg cyfeiriadau at Gymru a’r Gymraeg mewn rhai o’r trafodaethau yn y gynhadledd, ac ar bwysigrwydd sicrhau bod cyd-destunau ieithyddol Cymru yn cael eu cynrychioli mewn ymchwil a thrafodaethau rhyngwladol. Maen nhw hefyd yn trafod eu profiad o gyflwyno eu gwaith eu hunain yn Saesneg, a’r heriau a’r cyfleoedd sy’n dod gyda siarad am ymchwil o flaen cynulleidfa academaidd newydd.


    Un o themâu eraill y sgwrs yw dylanwad deallusrwydd artiffisial ar ymchwil academaidd. Mae’r ddau yn trafod pa mor aml roedd AI yn ymddangos yn y cyflwyniadau yn y gynhadledd, ac yn ystyried y perygl o drin technoleg newydd fel buzzword yn hytrach na chanolbwyntio ar ei defnyddiau a’i gwerth gwirioneddol.


    Wrth gloi, mae Emma yn trafod yr angen i fod yn llai beirniadol o’n methodolegau ymchwil ein hunain a chydnabod bod gan bob dull ei gyfyngiadau. I Jonathan, y brif wers o’r gynhadledd yw pwysigrwydd cyfathrebu a chymdeithasu â chyd-ymchwilwyr. Drwy rannu syniadau, gofyn cwestiynau a dod i adnabod gwaith pobl eraill, gall cynadleddau academaidd fod yn gyfle pwysig i ddysgu, adeiladu rhwydweithiau a datblygu fel ymchwilydd.


    Mae prosiectau Emma a Jon yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

    Mostra di più Mostra meno
    33 min
  • Pennod 13: Trin Dementia gyda Ffion Roberts
    Sep 9 2026

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Ffion, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n ymchwilio i ddementia ac, yn benodol, i’r hyn sy’n digwydd i gelloedd yr ymennydd wrth i bobl heneiddio. Mae ei gwaith yn edrych ar gyflyrau gan gynnwys clefyd Alzheimer, clefyd Parkinson a dementia, gan geisio deall y gwahaniaeth rhwng heneiddio arferol a’r newidiadau sy’n digwydd yn yr ymennydd mewn dementia.


    Yn ystod y sgwrs, mae Ffion yn trafod ei gwaith yn y labordy, gan gynnwys y broses o drawsnewid celloedd croen yn niwronau er mwyn creu modelau sy’n adlewyrchu oedran y person y daeth y celloedd ohono. Mae hi’n esbonio pam y gall y modelau hyn fod yn ddefnyddiol wrth astudio dementia, gan alluogi ymchwilwyr i archwilio beth sy’n digwydd mewn celloedd byw ac i brofi triniaethau posibl. Mae’r sgwrs hefyd yn trafod rhai o’r gwahaniaethau rhwng clefyd Alzheimer a chlefyd Parkinson, a rôl proteinau a mitocondria mewn iechyd celloedd yr ymennydd.


    Mae’r bennod hefyd yn archwilio rôl grelin, hormon sy’n cael ei gynhyrchu yn y stumog ac sy’n fwyaf adnabyddus am ei gysylltiad â newyn. Mae Ffion yn trafod ymchwil sy’n awgrymu bod grelin hefyd yn gallu effeithio ar yr ymennydd ac yn esbonio sut mae ei gwaith yn ymchwilio i’r posibilrwydd o dargedu’r system hon er mwyn hybu twf niwronau newydd. Drwy gyfuno modelau celloedd newydd ag ymchwil i grelin, y gobaith yw datblygu ein dealltwriaeth o ddementia ac archwilio llwybrau newydd posibl ar gyfer triniaethau yn y dyfodol.


    Mae prosiectau Ffion a phrosiect Jon yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

    Mostra di più Mostra meno
    30 min
  • Pennod Bonws: Diolch o Galon o Ymchwil Ar Y Gweill
    Jun 30 2026

    Diolch yn fawr iawn, pawb am eich holl gymorth dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma neges i roi gwybod y bydd Ymchwil Ar Y Gweill yn cymryd amser bant dros yr haf er mwyn recordio ar gyfer cyfres 2!


    Bydd Cyfres 2 hefyd yn ehangu’r ystod o leisiau ar y podlediad, gan gynnwys ymchwilwyr ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd academaidd, ynghyd â mwy o benodau drwy gydol y gyfres.


    Cyn hynny, mae croeso i chi fynd yn ôl at benodau Cyfres 1 ac ail-ddarganfod yr ymchwil ffantastig sydd eisoes wedi’i rhannu.


    Diolch o galon eto am wrando a dw i'n edrych ymlaen at eich croesawu chi nôl ym mis Medi!


    Jon



    Mostra di più Mostra meno
    2 min
  • Pennod 12: Cyllid a Datganoli gyda Guto Rhys Hughes
    Jun 29 2026

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Guto Rhys-Hughes, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, sy’n ymchwilio i ddatganoli cyllidol, bondiau sofran, a’r modd y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio dulliau benthyca newydd i ariannu buddsoddiadau cyfalaf yn y dyfodol. Mae’r sgwrs yn cyflwyno cysyniadau economaidd cymhleth mewn ffordd glir ac yn archwilio sut mae ymchwil academaidd yn gallu llywio trafodaethau polisi cyhoeddus.


    Yn ystod y bennod, mae Guto yn esbonio beth yw bondiau sofran, sut maent yn gweithio, a pham eu bod yn offeryn ariannol pwysig i lywodraethau ledled y byd. Mae’n trafod y pwerau benthyca a gafodd Llywodraeth Cymru yn 2015, sut mae’r Alban yn paratoi i gyhoeddi ei bond cyntaf, a beth all Cymru ei ddysgu o’r profiadau hynny. Mae hefyd yn egluro’r cysyniad o ddatganoli cyllidol a’r berthynas bosibl rhwng rhoi mwy o bwerau ariannol i lywodraethau lleol a thwf economaidd.


    Mae’r bennod hefyd yn cynnig cipolwg ar realiti ymchwil PhD ym maes economeg. Mae Guto yn trafod yr heriau o gasglu a chysoni data o wahanol rannau o’r Deyrnas Unedig, defnyddio cronfeydd data fel Bloomberg Terminal, a datblygu modelau ystadegol i ddadansoddi’r berthynas rhwng datganoli cyllidol a pherfformiad economaidd. Wrth gloi, mae’n rhannu cyngor i ymchwilwyr eraill ar bwysigrwydd cymryd seibiannau, siarad â chydweithwyr, a chadw cydbwysedd yn ystod taith y PhD.


    Mae prosiect Jonathan a phrosiect Guto yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.


    Mostra di più Mostra meno
    42 min
  • Pennod 11: Diddordebau'r Dysgwyr yn y Dosbarth Ieithoedd gyda Laura Jenkins
    May 14 2026

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Laura Jenkins, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, sy’n ymchwilio i rôl personoli mewn gwersi dysgu ieithoedd a sut y gall cynnwys sy’n berthnasol i fywydau dysgwyr gynyddu eu hymgysylltiad â’r iaith.


    Yn ystod y sgwrs, mae Laura yn trafod ei gwaith ar greu gwersi sydd wedi’u teilwra at ddiddordebau personol dysgwyr—o gerddoriaeth a bwyd i ffilmiau, cyfryngau cymdeithasol a chynnwys digidol fel Instagram, YouTube a Pinterest. Mae hi’n esbonio sut y gall defnyddio cynnwys sy’n berthnasol i fywyd pob dydd helpu dysgwyr i deimlo mwy o gysylltiad â’r iaith ac annog mwy o gyfranogiad yn y dosbarth.


    Mae’r bennod hefyd yn archwilio rhai o’r syniadau damcaniaethol sydd wrth wraidd ei hymchwil, gan gynnwys “context personalization”, “grain size, depth and ownership”, a’r cysyniad o “catch and hold” mewn addysg ieithoedd. Mae Laura yn trafod sut mae’r syniadau hyn yn helpu ymchwilwyr a thiwtoriaid i feddwl yn fwy realistig am sut i bersonoli gwersi mewn dosbarthiadau gyda dysgwyr o gefndiroedd a diddordebau gwahanol.

    Mostra di più Mostra meno
    48 min
  • Pennod 10: Y Gymraeg ac Iechyd gyda Maisie Edwards
    Apr 15 2026

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Maisie Edwards, ymchwilydd PhD sy’n archwilio rôl y Gymraeg mewn cyd-destunau Iechyd yng Nghymru.


    Yn ystod y sgwrs, trafodir pwysigrwydd iaith wrth ddarparu gofal sy’n wirioneddol ganolbwyntio ar yr unigolyn, yn enwedig mewn cyd-destunau diwedd oes. Mae Maisie yn amlinellu sut y gall y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg effeithio ar gysur, ymddiriedaeth ac ymgysylltiad cleifion, gan bwysleisio bod iaith yn fwy na dull o drosglwyddo gwybodaeth—mae’n ganolog i les emosiynol ac urddas.


    Mae’r bennod hefyd yn taflu goleuni ar ei dull ymchwil, sy’n cynnwys arolwg o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru ynghyd â chyfweliadau manwl. Trwy’r dulliau hyn, mae hi’n archwilio profiadau ac agweddau tuag at ddefnydd iaith mewn lleoliadau gofal lliniarol, yn ogystal â’r heriau sy’n codi, megis diffyg staff Cymraeg eu hiaith a’r angen am gefnogaeth sefydliadol gryfach i hwyluso darpariaeth ddwyieithog.


    Er nad yw’r dadansoddiad wedi’i gwblhau eto, mae canfyddiadau cychwynnol yn awgrymu bod dewis iaith yn chwarae rôl hanfodol mewn ansawdd y gofal a ddarperir. Mae Maisie yn trafod sut y gall ei hymchwil gyfrannu at lenwi bylchau yn y dystiolaeth bresennol, gan lywio polisi ac arfer yn y dyfodol, a thynnu sylw at bwysigrwydd darparu gofal sy’n briodol yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol—yng Nghymru ac mewn cyd-destunau ieithoedd lleiafrifol eraill.


    Mae PhD Jonathan a phrosiect Maisie yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Mostra di più Mostra meno
    55 min
  • Pennod 9: Dulliau Dysgu Cymraeg gyda Emma Grigorian
    Mar 25 2026

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Emma Grigorian, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Met Caerdydd, sy’n archwilio dysgu Cymraeg ar lein ac yn wyneb i wyneb.


    Yn ystod y sgwrs, trafodir rhyngweithiadau dysgu iaith, gan ganolbwyntio ar y gwahaniaethau rhwng cyfathrebu wyneb yn wyneb a chyfathrebu'n rhithiol. Mae Emma yn esbonio sut mae ffactorau megis oedi mewn galwadau fideo, diffyg ciwiau gweledol fel meicrofynegiadau, a newidiadau mewn deinameg cymryd-tro yn dylanwadu ar brofiad dysgwyr — yn enwedig o ran hyder, cymhelliant a llwyddiant cyfathrebol canfyddedig.


    Mae’r bennod hefyd yn taflu goleuni ar ei dull ymchwil amlfoddol, sy’n cyfuno technegau megis olrhain syllu, dadansoddi emosiynau, ac astudiaeth fanwl o batrymau sgwrsio. Trwy gyfres o arbrofion a holiaduron, mae hi’n archwilio sut mae dysgwyr yn prosesu iaith mewn amodau gwahanol, gan gynnwys effaith ansawdd fideo ac oedi ar gywirdeb metawybyddol, yn ogystal â sut mae unigolion yn barnu llwyddiant mewn sgwrs.


    Mae PhD Jonathan a phrosiect Emma yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Mostra di più Mostra meno
    49 min
  • Pennod 8: Gweithio gyda Goruchwylwyr gyda Dr Jonathan Morris
    Feb 20 2026

    Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda'i oruchwyliwr, Dr Jonathan Morris o Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, am un o’r penderfyniadau pwysicaf ar ddechrau taith academaidd: dewis a gweithio gyda goruchwylwyr doethurol.


    Yn ystod y sgwrs, trafodir sut i fynd ati i ddod o hyd i’r goruchwyliwr cywir, sut i wneud y cyswllt cyntaf heb deimlo fel eich bod chi’n anfon neges i’r gwagle, a beth sy’n gwneud perthynas oruchwylio yn un iach a chynhyrchiol.

    Mostra di più Mostra meno
    35 min